Arweiniad
ar gyfer ysgolion (a sefydliadau eraill yr awdurdodau lleol)
ynghylch lleoli plant tu allan i’w grŵp
cronolegol.
- Caiff ysgolion eu cynghori y dylid addysgu plant, fel
arfer, o fewn eu grŵp blwyddyn
cronolegol.
- Ceir tystiolaeth nad yw gosod plant mewn
dosbarthiadau o blant iau, ar y gorau, yn amharu o gwbl ar eu
canlyniadau yn y tymor hir, ac ar y gwaethaf, gall arwain at
iechyd emosiynol mwy bregus, cyraeddiadau is a gwaeth rhagolygon o
ran cyflogaeth.
- Prin yw’r dystiolaeth bod plant yn elwa o fod
mewn dosbarth gyda grŵp o oedran iau na hwy. Ceir peth
tystiolaeth o welliannau byr dymor o ran cyflawniad, ond ceir
dirywiad o ran cyflawniad, sy’n is na chyfoedion na chedwir
yn ôl. Ymhlith yr effeithiau hir dymor mae cynnydd mewn
‘cyfraddau rhoi’r gorau i addysg a chyrhaeddiad
academaidd is, diffyg hunan barch, a chyfraddau is o ran
presenoldeb yn yr ysgol, o’i gymharu â chyfoedion
na chedwir yn ôl.
- Y cyfiawnhad arferol
Fel arfer, caiff un o’r
canlynol eu cynnig fel cyfiawnhad dros osod disgyblion mewn
grŵp blwyddyn nad yw’n grŵp a berthyn i’w
hoedran cronolegol:
- i.) Bod y disgybl yn meddu ar sgiliau deallusol
eithriadol, ei fod wedi ei ynysu fel dysgwr yn eu
grŵp cyfoedion presennol, ac yn peri anawsterau mawr i
athrawon o ran darparu estyniad priodol i’r
cwricwlwm.
- ii.) Bod gan y disgybl oediad eithriadol o ran
sgiliau deallusol, na all gymryd rhan mewn tasgau dysgu
grŵp, a’i fod yn peri anawsterau mawr i
athrawon o ran gwahaniaethu cwricwlwm.
- iii.) Yn aml mewn cydgysylltiad â (ii), mae gan
y disgyblion hyn oediad emosiynol, ni allant ffurfio
perthnasoedd digonol gyda’u cylch cyfoedion, ac maent mewn
perygl o gael eu hynysu.
- iv.) Bu’r disgybl yn absennol am gyfran helaeth
o’r flwyddyn oherwydd salwch neu am resymau
eraill.
- v.) Oherwydd cyflwr corfforol neu lesgedd y
disgyblion, ymddengys eu bod angen amgylchfyd llai peryglus nac
sy’n bodoli mewn dosbarthiadau ar gyfer eu gwir grŵp
oedran.
- vi.) Ceir plant sydd newydd gyrraedd y DU nad ydynt
wedi cael blas o’r cwricwlwm Cenedlaethol dwyieithog ac sydd
angen amser i addasu i fywyd ysgol yn y gwledydd hyn.
Y Goblygiadau i’r disgybl.
Disgyblion mewn grŵp oedran hŷn:
- Mae’n bur bosibl bod disgyblion a osodir mewn
grŵp blwyddyn ar y blaen i’w hoedran cronolegol, yn cael
eu hysgogi neu’n teimlo’n llai rhwystredig mewn meysydd
ble maent yn rhagori nag y buasent pe baent yn eu grŵp oedran
cronolegol. Ar y llaw arall, gall y byddant yn wynebu heriau mewn
meysydd ble efallai nad yw eu cryfderau a’u hadnoddau
personol wedi datblygu cymaint. Yn neilltuol, gall
disgyblion nad yw eu haeddfedrwydd corfforol, cymdeithasol ac
emosiynol yn cyfateb i’w haeddfedrwydd deallusol eithriadol,
ei chael yn anodd cymdeithasu yn yr ysgol. Gall hyn arwain at
ganlyniadau emosiynol sylweddol, yn enwedig yn ystod
llencyndod.
- Fodd bynnag, ble mae aeddfedrwydd cyffredinol
disgyblion yn fras yn unol ag aeddfedrwydd deallusol, gallant
elwa o gael eu lleoli o flaen eu hoedran cronolegol. Ond dylid cadw
mewn cof y gellir, o ddilyn yr un cwricwlwm wedi ei gyfoethogi a
gyda’r un grŵp oedran cronolegol, sicrhau canlyniadau
tebyg ac y bydd yn golygu llai o risg.
- Unwaith mae disgyblion wedi trosglwyddo i grŵp
blwyddyn CC uwch, mae’n anodd gwrth-droi’r newid,
a bydd yn golygu ailadrodd blwyddyn CC. Mae’n felly’n
bwysig ystyried canlyniadau symudiad o ran cerrig milltir addysgol
pwysig bydd y disgybl yn cyrraedd blwyddyn neu ragor o flaen
yr oedran arferol, yn trosglwyddo i’r cam nesaf, TGAU ac yn
gadael yr ysgol. Mae’n werth nodi na all disgyblion
derfynu eu haddysg yn 15 oed, ac felly, gall bydd yn ofynnol
iddynt drosglwyddo’n gynnar i’r chweched dosbarth neu
goleg addysg bellach.
- Dylai athrawon, rhieni a disgyblion gwrdd
â’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a’r Gwasanaeth
Ymgynghorol i drafod goblygiadau trosglwyddo i grŵp blwyddyn
hŷn.
Lleoli mewn grŵp blwyddyn iau.
- Mae ystyriaeth debyg, er ei fod i’r cyfeiriad
arall, yn berthnasol i ddisgyblion a gedwir yn ôl flwyddyn
neu ragor o flynyddoedd’. Anaml iawn y caiff cryfderau
ac adnoddau disgybl eu cyfyngu’n gyson mewn pob maes, a
gall naws o ddisgwyliadau cyffredinol isel fod yn broblemus. Mae
hyn yn peryglu yn arbennig ddatblygiad sgiliau corfforol, emosiynol
a chymdeithasol.
- Dylai ysgolion a theuluoedd gymryd gofal ynghylch
cadw plant a gânt eu geni yn ystod yr haf mewn blwyddyn is o
ran CC. Gall bydd y disgyblion hyn yn meddu ar gyraeddiadau a
sgiliau cymdeithasol is nac eraill yn eu blwyddyn CC, a
hynny’n unig oherwydd iddynt gael llai o amser ar gyfer
addysgu a dysgu. Dylai ysgolion gymryd camau priodol i ddelio
â hyn yn nosbarth arferol y plentyn, trwy wahaniaethu’r
cwricwlwm yn ôl yr arfer.
- Unwaith eto, os yw disgyblion allan o’r
flwyddyn CC gywir, mae’n anodd gwrthdroi’r newid
a gall y byddant, o “drosneidio” yn ôl i’r
flwyddyn CC gywir, yn cael profiadau anodd ac annymunol. Os
ydynt yn parhau â’u haddysg mewn blwyddyn CC is,
byddant yn cyrraedd y cerrig milltir addysgol pwysig; bydd hawl
ganddynt adael yr ysgol cyn cwblhau eu TGAU. Ac os ydynt yn neidio
blwyddyn, neu’n aros mewn blwyddyn CC is, ac yn cwblhau
eu haddysg o fewn oedran arferol ysgol, byddant yn colli’n
gyfan gwbl y rhaglen waith am Flwyddyn Gwricwlwm Genedlaethol gyfan
mae ganddynt hawl statudol i’w
derbyn.
Goblygiadau i ysgolion
- Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o’r
goblygiadau o symud disgyblion allan o’r flwyddyn CC
gywir. Gall y penderfyniad i symud disgybl allan o flwyddyn
effeithio ar fynediad pan mae gormod wedi ymgeisio am leoedd yn y
‘flwyddyn dderbyn”, a gall hynny fod yn drafferthus
iawn yn CA1, ble na all unrhyw ddosbarth babanod sy’n
cynnwys plant 5, 6 neu 7 oed, fod â chymhareb uwch na 30 o
ddisgyblion i un athro/athrawes, mae angen cyflogi athro/athrawes
ychwanegol os ceir disgybl ychwanegol uwchben y rhif
hwn.
- Ni ellir gwneud eithriad o ran disgyblion a osodir tu
allan i oedran cronolegol. Gall disgyblion sy’n cael eu
lleoli beri i’r ysgol orfod talu am athrawon ychwanegol.
Gallant atal lleoedd ar gyfer disgyblion sydd i gael
mynediad, a ble gall y lleoliad fod yn briodol neu’n
angenrheidiol. Gall bydd “ysgolion sy’n derbyn”
yn wynebu anawsterau tebyg, wrth drosglwyddo cyfnod ar ddiwedd
cyfnodau allweddol.
Datganiad o AAA
- Gall bydd lleoli disgyblion ar ddatganiadau tu allan
i’r flwyddyn CC yn arwain at gostau ychwanegol. Os, ar
ôl iddynt ail-adrodd blwyddyn CC yn gynharach yn yr ysgol,
mae disgyblion ar ddatganiadau yn aros blwyddyn ychwanegol i
gwblhau eu haddysg; byddant angen blwyddyn ychwanegol o gyllid ar
gyfer y ddarpariaeth testun datganiad.
- Ceir hefyd oblygiadau i ddisgyblion sy’n destun
datganiad AAA ac sy’n trosglwyddo i flwyddyn CC o flaen eu
hoedran gronolegol, ac yna’n trosglwyddo o’r ysgol
i’r coleg flwyddyn yn gynnar. Mae’r AALL yn gyfrifol am
ddisgyblion ar ddatganiad o AAA nes maent yn 19 oed, ond aiff
y datganiad yn ddi-rym os yw disgybl yn mynychu coleg cyn cyrraedd
19 oed. Efallai bydd ar rai disgyblion angen gwneud trefniadau
arbennig i fynychu’r chweched dosbarth neu’r Coleg
Addysg Bellach.
Canllawiau Arfer Dda
- Mae hawl gan bob plentyn gael ei addysgu gyda’i
gyfoedion ef neu hi. Mae’r ysgol yn gyfrifol am ddelio ag
anghenion unigol trwy gwricwlwm wedi ei bersonoli ac sydd yn
wahaniaethol neu wedi ei gyfoethogi.
- O dan amgylchiadau eithriadol yn unig y dylai
ysgolion ystyried symud disgyblion allan o’r flwyddyn CC.
Dylid ystyried y lleoliad yn flynyddol, a
chyd-benderfynu prun ai i gadw plentyn allan o’u grŵp
blwyddyn arferol neu eu lleoli yn ôl gyda’u
cyfoedion.
- I gyfiawnhau gorfodi disgybl i aros i lawr flwyddyn,
mae’n ofynnol bod sgiliau addysgol y disgybl ar draws y rhan
fwyaf o bynciau ymhell islaw’r safon sy’n
arferol yn eu blwyddyn CC briodol; ac y ceir tystiolaeth bod
ymdrechion rhesymol yr ysgol i addasu a’i hymdrechion priodol
i bersonoli’r cwricwlwm wedi bod yn
aflwyddiannus.
- O ganlyniad, dylai’r disgybl dderbyn datganiad
AAA, a dylid paratoi Cynllun Addysg Unigol ar ei gyfer ef/hi
sy’n cynnwys yn benodol waith ar yr hyn sydd ei angen ar
gyfer eu blwyddyn CC briodol. Dylai unrhyw gynnig i
drosglwyddo’r disgybl o’r grŵp oedran cronolegol
fod wedi cael ei gadarnhau yn ystod y cyfarfod adolygu diweddar a
fynychwyd gan rieni a’r disgybl.
- Ni ddylai disgyblion aros islaw eu blwyddyn CC
briodol am gyfnod amhenodol. Dylent ddychwelyd i’w blwyddyn
CC briodol cyn gynted a bo modd ac fel arfer erbyn diwedd y
flwyddyn CC.
- Yn ystod y cyfnod pan mae’r disgybl allan
o’i flwyddyn, dylai’r cwricwlwm fod yn wahanol yn ei
hanfod o ran targedau, trosglwyddo a chefnogaeth er mwyn galluogi
cynnydd mwy cyflym yn y meysydd hynny sy’n hanfodol ac er
mwyn sicrhau bod y disgybl yn dychwelyd yn llwyddiannus i’r
grŵp blwyddyn cywir. Y nod ddylai sicrhau bod y plentyn
yn gwneud cynnydd cyflym ac y gellir cynnal y cynnydd hwnnw hyd yn
oed ar ôl i’r cyfnod o leoli disgybl tu allan i
flwyddyn, ddod i ben.
Ni ddaethpwyd ar draws papurau cyhoeddedig ble ceir
canlyniadau positif yn sgil ailadrodd blwyddyn yn yr ysgol,
neu oedd yn arfarnu effaith gosod plentyn gyda grŵp blwyddyn
hŷn.
Llyfryddiaeth
- Byrnes, D.A. & Yamamoto, K (1985) Academic
retention of elementary pupils: An inside look. Education, 106, 2,
208-214.
- Cadieux, A. (2003) A 3-year longitudinal study of
self-concept and classroom behaviour of Grade 1 retained pupils.
Perceptual, and Motor Skills, 93, 2, 371-378.
- Clatworthy, V (2005) The Perceptions of Parents,
Pupils and Teachers on Grade Retention. MSc Dissertation
(unpublished), University of Bristol.
- Eide, E.R and Showalter, M.H. (2001) The effect of
grade retention on educational and labour market outcomes.
Economics of Education Review, 20, 563-576.
- Ferguson, P.C.
(1991) Longitudinal outcome differences among promoted and
transitional at-risk kindergarten students. Psychology in the
Schools, 28, 2, 139-146.
- Honffy, M. & Bachlechner, M. (1977) Children
whose education is delayed: An initial evaluation of the study.
Praxis der Kinderpsychologie und Kinderpsychiatrie, 26, 5,
176-184.
- Hong, G & Raudenbush, S.W. (2005) Effects of
Kindergarten Retention Policy on Children’s Cognitive Growth
in Reading and Mathematics. Educational Evaluation and Policy
Analysis, 27, 3, 205-224.
- Jimerson, S., Carlson E., Rotert, M., Egeland, B.,
& Sroufe, L.A. (1997) A prospective, longitudinal study of the
correlates and consequences of early grade retention. Journal of
School Psychology, 35, 1, 3-25.
- Mantzicopoulos, P. (1997) Do certain groups of
children profit from early retention? A follow-up study of
kindergarteners with attention problems. Psychology in the Schools,
34, 2. 115-127.
- Mantzicopoulos, P. & Morrison, D. (1992)
Kindergarten retention: Academic and behavioural outcomes through
the end of the second grade. American Educational Research Journal,
29, 1, 182-118.
- Peterson, S.E., DeGracie, J. S. & Ayabe, C. R.
(1987) A longitudinal study of the effects of retention/promotion
on academic achievement. American Educational Research Journal, 24,
1, 107-118.
- Westbury, M. (1994) The effect of elementary grade
retention on subsequent school achievement and ability. Canadian
Journal of Education, 19, 3, 241-250.
- John Hattie – The major issues in the retention
debate.
http://www.arts.auckland.ac.nz/FileGet.cfm?ID=4a924c93-057d-4c0e-8f32-36c11af6113c
Retrieved 18th July
2006.
- National
Association of School Psychologist – Position Statement on
Student Grade Retention and Social Promotion. www.nasponline.org/information.pospaper_graderetent.html. Retrieved 18th July 206
- United Nations Educational, Scientific and Cultural
Organisation – The Salamanca Statement and Framework for
Action on Special Needs Education. http://unesdoc.unesco.org/images/009/000984/098427eo.pdf Retrieved 18th July
2006
Diolch i:
Awdurdodau lleol Birmingham City,
Cheshire, Derby City, Salford, South Gloucestershire, West Lothian,
Staffordshire a Dinbych am ddarparu polisiau fel
esiampl.